Ci wedi ei hyfforddi i synhwyro clefyd siwgr bachgen
Mae ci arbennig teulu o Golan ger Porthmadog wedi ei hyfforddi i gynorthwyo eu mab sy'n dioddef o glefyd siwgr.
Dyma'r bartneriaeth feddygol gyntaf o'i bath yng Nghymru rhwng ci a phlentyn, ac yn ôl y teulu mae'n amhrisiadwy cael "par arall o lygaid" i ofalu am eu mab.
Dyma adroddiad Dafydd Gwynn ar gyfer Newyddion 9.