BBC Cymru Fyw

Marwolaeth sgïo: Pentref mewn galar

Mae pentref yn y canolbarth mewn galar wedi i fachgen saith oed farw wrth sgïo ar wyliau teuluol yn yr Alpau yn Ffrainc. Mae wedi ei enwi'n lleol fel Carwyn Scott-Howell o bentref Tal-y-bont ar Wysg ym Mhowys.

Dywed yr heddlu yn Ffrainc ei fod wedi disgyn 160 troedfedd i'w farwolaeth ar ôl gadael llwybr y piste a cherdded i lawr llethr coediog a serth.

Dyma adroddiad Gwenfair Griffith i Newyddion 9.