Y Cymro ym Mhencampwriaeth Duathlon Ewrop
Dafydd Morgan aeth draw i gyfarfod Dai Cole o Aberteifi fydd yn cynrychioli Prydain ym Mhencampwriaeth Duathlon Ewrop ym Madrid.
Mae duathlon yn debyg i driathlon, ond nid yw'n cynnwys cymal nofio, yn hytrach mae'n rhaid i'r cystadleuwyr gwblhau cymal rhedeg, cymal seiclo, a chymal rhedeg arall.
Bydd Pencampwriaeth Duathlon Ewrop yn cael ei gynnal yn ninas Alcobendas, 15km o Fadrid.