'Angen glanhau strydoedd Bethesda'
Mae mam o Wynedd yn rhybuddio y bydd plentyn yn cael niwed difrifol yn hwyr neu'n hwyrach - gan nodwyddau hypodermig sy'n cael eu gadael ar strydoedd Bethesda.
Mi ddechreuodd Nerys Edwards ymgyrch ar Facebook ar ol i'w mab pum mlwydd oed ddod o hyd i nodwyddau yno ddwywaith.
Mae Heddlu'r Gogledd a Chyngor Gwynedd yn dweud eu bod nhw'n ymwybodol o'r cwynion.
Gohebydd BBC Cymru, Dafydd Evans aeth i Ddyffryn Ogwen.
- Cyhoeddwyd
- 2 Mai 2015
- Adran
- Cymru Fyw
- Is-adran
- Newyddion a mwy