Pryder am ddyfodol parc y Vetch
Ddeng mlynedd yn ôl, fe gafodd gêm olaf yr Elyrch ei chynnal ar gae'r Vetch yn Abertawe. Ers hynny, mae'r safle wedi cael ei drawsnewid gyda pharc a gardd gymunedol yno.
Ond, mae rhai o'r trigolion lleol yn pryderu am y dyfodol. Mae cabinet y cyngor wedi pasio cynllun fyddai'n ei gwneud hi'n haws i ganiatáu adeiladu 40 o dai ar y safle.
Tomos Morgan aeth i Abertawe ar ran Newyddion 9.
- Cyhoeddwyd
- 19 Mai 2015
- Adran
- Cymru Fyw
- Is-adran
- Newyddion a mwy