Rhybudd dros ysgolion uniaith Gymraeg
Mae cyn bennaeth Bwrdd yr Iaith yn rhybuddio y gallai newid statws ysgolion uwchradd dwyieithog i rai uniaith Gymraeg arwain at lai o ddisgyblion.
Daw sylwadau Meirion Prys Jones wrth i bennaeth Ysgol Gyfun Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin ddweud wrth rieni eu bod nhw'n awyddus i droi'n ysgol gyfrwng Cymraeg ym mis Medi 2016.