Ymddiriedolaeth yn prynu fferm
Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi prynu fferm arfordirol a darn o dir wrth gopa Pen y Gogarth ger Llandudno - a hynny er mwyn gwarchod safle sydd o bwys botanegol.
Fe aeth Fferm y Parc ar werth ym mis Ebrill, ac mae'r Ymddiriedolaeth wedi llwyddo i'w phrynu.
Roedd pryder ymhlith rhai y gallai'r tir fod wedi ei addasu a'i droi yn gwrs golff. Roedd yna gwrs golff ar y llecyn cyn yr Ail Ryfel Byd.
Dywed yr elusen bod nifer yn ystyried Pen y Gogarth fel un o'r pum safle pwysicaf ym Mhrydain o safbwynt botanegol..
Fideo: Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Cerddoriaeth: Brahms Violin Concerto.