Ymrwymiad 'cadarn' i lety Cymraeg yn Aberystwyth
Mae dirprwy is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Dr Rhodri Llwyd Morgan, wedi dweud bod ymrwymiad "cwbl gadarn" i ddarparu llety Cymraeg i fyfyrwyr.
Roedd Dr Morgan yn ymateb wedi i 50 o staff cyfrwng Cymraeg y brifysgol ddatgan eu pryder ynglŷn â dyfodol Neuadd Pantycelyn.
Mae uwch reolwyr y brifysgol wedi cynnig y dylid cau'r neuadd Gymraeg i fyfyrwyr o fis Medi eleni.
Mi fydd y penderfyniad ynglŷn â'r cam nesaf yn cael ei wneud gan Gyngor y Brifysgol ar 22 Mehefin.