Cwest milwyr: Esgeulustod wedi cyfrannu at farwolaethau
Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi ymddiheuro ar ôl i grwner ddyfarnu bod esgeulustod wedi cyfrannu at farwolaethau tri milwr yn dilyn ymarferion ar Fannau Brycheiniog ddwy flynedd yn ôl.
Bu farw'r tri, yn eu plith Craig Roberts o Fae Penrhyn, o effaith y gwres wedi profion i ymuno a'r SAS ar ddiwrnod poethaf yr haf. Yn ôl y crwner pe byddai'r ymarfer wedi dod i ben yn gynt ni fyddai'r milwyr wedi marw.
Adroddiad Ellis Roberts.
- Cyhoeddwyd
- 14 Gorffennaf 2015
- Adran
- Cymru Fyw
- Is-adran
- Newyddion a mwy