Ffermwyr i brotestio am bris teg?
Yn ystod yr wythnos ar Faes y Sioe mae Newyddion 9 wedi clywed am broblemau mawr y diwydiant llaeth a phrisiau isel hefyd i'r diwydiant cig coch - ac yn sicr mae yna ddigon o drafod a lobio wedi bod yn Llanelwedd.
Ond a fydd ffermwyr yn mynd gam ymhellach? Mae un o brif undebau ffermwyr Cymru wedi dweud nad ydyn nhw'n diystyru gweithredu uniongyrchol er mwyn sicrhau pris teg i'w cynnyrch.
Daw sylwadau'r NFU ar ôl dyddiau o brotestio ffyrnig gan ffermwyr Ffrainc. Teleri Glyn-Jones oedd ar faes y Sioe.
- Cyhoeddwyd
- 24 Gorffennaf 2015
- Adran
- Cymru Fyw
- Is-adran
- Newyddion a mwy