BBC Cymru Fyw

Edrych 'mlaen at Eisteddfod Sir Fynwy 2016

Ar gae ger Y Fenni fydd yr Eisteddfod y flwyddyn nesa - ac mae 'na edrych 'mlaen yn barod.

Mae pobol yr ardal yn gobeithio y bydd yr ŵyl yn rhoi hwb i'r iaith Gymraeg fel clywodd Newyddion 9 gan griw o drefnwyr Steddfod Sir Fynwy wrth iddyn nhw fynd o amgylch y maes ddydd Gwener.