BBC Cymru Fyw

Bargyfreithwraig yn newid cyfeiriad

Hi oedd yn arwain yr erlyniad yn achos llofruddiaeth April Jones, ac yn amddiffyn pan ddaeth achos trychineb glofa'r Gleision i'r llys.

Ond mae'r fargyfreithwraig uchel ei pharch Elwen Evans wedi penderfynu newid cyfeiriad gan gymryd swydd fel Pennaeth Coleg y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe.

Fe fydd hi'n parhau i eistedd fel barnwr rhan-amser.