Cymuned yn dathlu cadw toiledau
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae degau o doiledau cyhoeddus wedi cau yng Nghymru wrth i gynghorau geisio arbed arian.
Ond ddydd Gwener roedd un pentref yn Sir Ddinbych yn dathlu 10 mlynedd ers iddyn nhw ddechrau cynnal a chadw'r tai bach.
Mae'n debyg mai toiledau Llandrillo ger Corwen oedd y cyntaf yng Nghymru i gael eu hachub gan y gymuned. Sion Tecwyn aeth yno ar ran Newyddion 9.
- Cyhoeddwyd
- 21 Awst 2015
- Adran
- Cymru Fyw
- Is-adran
- Newyddion a mwy