BBC Cymru Fyw

Hoff gais Gregor Townsend o'r PRO12

Wrth i'r PRO12 ailddechrau'r penwythnos yma, mae Clwb Rygbi wedi bod yn holi rhai o ffigyrau blaenllaw'r byd rygbi am eu hoff geisiadau.

Mae'r Glasgow Warriors yn croesawu'r Scarlets i Stadiwm Scotstoun ddydd Sadwrn, a bu eu prif hyfforddwr Gregor Townsend yn trafod ei hoff gais erioed o'r PRO12.

Clwb a seren o Gymru gafodd ddewis Townsend, ac mae'n trafod ei benderfyniad gyda Clwb Rygbi.