Penwythnos mawr rygbi a phêl-droed
Mae llais un i'w glywed adeg gemau rygbi rhyngwladol yn Stadiwm y Mileniwm, a'r llall yw wyneb pêl-droed S4C.
Ar drothwy'r hyn sy'n cael ei ddisgrifio gan lawer fel y diwrnod mwyaf erioed i chwaraeon Cymru, Rhodri Llywelyn sydd wedi bod yn siarad gyda Dylan Ebenezer a Rhys ap William am y ddwy gêm a'r ddwy gamp.
Mi fyddai buddugoliaeth yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn yn golygu mai Cymru fyddai'n gorffen ar frig Grŵp A yng Nghwpan Rygbi'r Byd, tra bod y tîm pêl-droed cenedlaethol angen pwynt yn Bosnia-Herzegovina i hawlio'u lle yn rowndiau terfynol Euro 2016.
- Cyhoeddwyd
- Adran
- Cymru Fyw
- Is-adran
- Newyddion a mwy