Cofio diwrnod agoriad argae Tryweryn
Ddydd Mercher fe fydd hi'n union hanner can mlynedd ers agoriad swyddogol argae Llyn Celyn.
Mae boddi pentref Capel Celyn a Chwm Tryweryn yn cael ei ystyried yn drobwynt yn hanes diweddar Cymru, a'r wythnos hon fe fydd rhaglen y Post Cyntaf yn cofio'r achlysur gyda chyfres o eitemau a darllediadau byw.
Bore Llun roedden nhw'n ystyried diwrnod yr agoriad, ac yn clywed atgofion un o'r rhai a gollodd eu cartrefi pan foddwyd y cwm.
Roedd cynrychiolwyr Corfforaeth Lerpwl ynghyd ag Arglwydd Faer y Ddinas wedi mynd i'r argae i gynnal seremoni ffurfiol, ond methwyd a chynnal y digwyddiad am fod cannoedd o bobol wedi mynd yno i brotestio. Dyma adroddiad Alun Rhys.
- Cyhoeddwyd
- 19 Hydref 2015
- Adran
- Cymru Fyw
- Is-adran
- Newyddion a mwy