Golwg newydd i Sgwâr Daniel Owen
Mae yna gwyno ers tro nad yw'r Sgwâr Daniel Owen yn Yr Wyddgrug yn deilwng o enw un o gewri llenyddiaeth Cymru.
Ond ddim mwyach.
Wedi sawl blwyddyn o gynllunio a channoedd o filoedd o bunnau fe gafodd y sgwâr ei agor ar ei newydd wedd heddiw, a hynny yn ystod gŵyl flynyddol Daniel Owen.
Adroddiad Dafydd Evans.