Cipolwg cyntaf ar ganolfan Pontio ym Mangor
Mae canolfan gelfyddydau ac arloesi Pontio wrthi yn cael ei gorffen, medd Prifysgol Bangor.
Mae'r ganolfan newydd yn gartref i theatr, sinema ddigidol, undeb myfyrwyr, bar a bwyty.
Dirprwy is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro Jerry Hunter, a chyfarwyddwr artistig Pontio, Elen ap Robert, fu'n tywys BBC Cymru o amgylch y ganolfan.