Pryder undeb wedi ymchwiliad i brifathro
Ar ôl i bennaeth ysgol o Fangor gael ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol i ddisgybl, mae undeb prifathrawon yr NAHT yn codi cwestiynau am hyd ymchwiliadau o'r fath.
Cafodd Trystan Williams ei orfodi i fyw ar wahân i'w wraig a'i ddau fab am fisoedd wedi'r digwyddiad yn Academi Springfields yn Wiltshire. Yna, heb ddigon o dystiolaeth, aeth yr achos ddim pellach.
Mewn cyfweliad arbennig â gohebydd Newyddion 9, Tomos Morgan, bu'n sôn am ei brofiadau a'r effaith y cafodd yr ymchwiliad ar ei deulu.
Bydd cyfweliad estynedig ar Newyddion 9 heno ar S4C.
- Cyhoeddwyd
- 5 Tachwedd 2015
- Adran
- Cymru Fyw
- Is-adran
- Newyddion a mwy