Dros hanner cynghorau Cymru am werthu parciau
Mae dros hanner cynghorau Cymru eisoes wedi, neu'n bwriadu gwerthu neu drosglwyddo parciau a meysydd chwarae i gymunedau lleol. Dyna mae gwaith ymchwil gan raglen Newyddion 9 yn ei ddangos.
O'r 17 o awdurdodau lleol wnaeth ymateb, dau yn unig sydd ddim yn bwriadu gwerthu eiddo o'r fath ar hyn o bryd.
O Sir Gar, adroddiad Aled Scourfield.