'Angen dyblu'r gwario' ar lwybrau beicio, meddai elusen
Mae elusen drafnidiaeth eisiau dyblu gwariant ar lwybrau cerdded a beicio.
Fe basiwyd y Ddeddf Teithio Llesol y llynedd, ond mae Sustrans Cymru yn honni bod angen gwario o leiaf £10 y person ar brosiectau "teithio llesol" er mwyn sicrhau llwyddiant y ddeddf.
Mae 2% o gyllideb trafnidiaeth Llywodraeth Cymru yn cael ei wario ar deithio llesol ar hyn o bryd. Fe ddylai hynny gynyddu i 4%, meddai'r elusen. Teleri Glyn Jones sydd â'r hanes.