BBC Cymru Fyw

Ymosodiadau Paris: 'Gweithred o ryfel'

Unwaith eto mae trigolion Paris yn ceisio dod i delerau ag ymosodiad terfysgol yn eu dinas.

10 mis ar ôl i ddynion arfog ymosod ar swyddfeydd y papur dychanol Charlie Hebdo cafwyd ymosodiad erchyll arall - ond y tro yma, un llawer iawn mwy gwaedlyd.

Mae o leiaf 129 o bobl wedi eu lladd, ac mae o leiaf un o Brydain ymhlith y meirw. Cafodd dros 300 eu hanafu, ac mae 99 ohonyn nhw mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Mae grŵp Mwslemaidd eithafol IS wedi hawlio cyfrifoldeb. Aled Huw sy'n adrodd o Baris.