Toriadau ysgol yn creu 'braw ac arswyd'
Mae cynghorau Cymru wedi rhybuddio ysgolion i baratoi am doriadau "dinistriol" i'w cyllidebau yn y blynyddoedd nesaf, meddai undeb athrawon.
Dywedodd UCAC wrth raglen Post Cyntaf ar Radio Cymru y bydd cwtogiad o tua 16% dros dair blynedd.
Byddai toriad o'r fath yn "ddinistriol i ysgolion a safon addysg pobl ifanc", ychwanegodd yr undeb.
Yn ôl Gethin Thomas, prifathro Ysgol Gymraeg Dewi Sant yn Llanelli, mae hynny'n golygu £250,000 yn llai erbyn 2019 a fyddai'n golygu o bosib cael gwared â rhai o'r staff dysgu.