Rhoi organau: Dilyn trywydd y Sbaenwyr?
Cymru fydd y wlad gynta' yn y DU i gymryd yn ganiataol eich bod chi'n barod i roi'ch organau ar ôl i chi farw, oni bai eich bod chi wedi nodi yn wahanol.
Bwriad y gyfraith newydd - sy'n cael ei chyflwyno ddydd Mawrth - yw cynyddu'r nifer o organau sydd ar gael, allai achub bywydau cleifion sy'n aros am drawsblaniad.
Er mwyn ystyried pa effaith allai'r gyfraith ei chael mae Cymru Fyw wedi teithio i Sbaen, y wlad sydd â'r raddfa ucha' o bobl yn rhoi organau yn y byd.
Felly pam fod Sbaen ar frig y tabl trawsblaniadau, a pha wersi sydd i'w dysgu i Gymru o'r system yno?
Dyma rai o'r prif bwyntiau i chi mewn llai na munud.