Seren bêl-droed merched Cymru yn ymddeol
Mae un o sêr pêl-droed merched Cymru, Gwennan Harries, wedi cyhoeddi ei hymddeoliad.
Enillodd yr ymosodwr 56 o gapiau dros ei gwlad a chodi cwpan cymdeithas bêl-droed Lloegr gyda thîm merched Everton.
Bu'n sôn wrth Lowri Roberts am ei rhwystredigaeth o orfod rhoi'r gorau i chwarae.