'Casineb' perthynas tuag at arweinydd cwlt comiwnyddol
Mae perthynas Cymreig i ferch gafodd ei chaethiwo gan ei thad ei hun wedi bod yn egluro'i "chasineb" tuag at y dyn.
Fe gafwyd Aravindan Balakrishnan yn euog o dreisio, caethiwo a cham-drin merched tra'n arweinydd cwlt comiwnyddol yn Llundain.
Ymhlith ei ddilynwyr roedd Sian Davies o Dregaron, a oedd hefyd yn fam i ferch Balakrishnan.
Cyfnither Sian Davies, Eleri Morgan, sy'n siarad yma.