Beirniadu toriadau i gynghorau gwledig
Mae'r Cynghorydd Huw George o Gyngor Sir Penfro wedi beirniadu'r toriadau i awdurdodau lleol yng nghefn gwlad Cymru.
Mae Cyngor Sir Penfro'n wynebu gostyngiad o 2.8% yn eu cyllid yng nghyllideb ddiweddaraf Llywodraeth Cymru.
Bydd 'na hefyd doriadau o dros 3.1% i gyllid siroedd gwledig Powys, Ceredigion a Sir Fynwy.