Amaeth: 'Angen newid i fod yn gynaliadwy'
Mae cyn ddirprwy Weinidog Amaeth wedi dweud bod angen i amaethwyr newid eu dulliau i fod yn fwy cynaliadwy, wedi cytundeb Paris ar newid hinsawdd.
Dywedodd Alun Davies bod incwm ffermwyr wedi codi yn fwy na mewn sectorau eraill, ac nad oedd yn afresymol i ofyn am newid yn y ffordd mae'r diwydiant yn gweithio.
Daw ei sylwadau ar ôl i arbenigwr ddweud bod ffermwyr yn wynebu "cyfnod anodd" wedi'r cytundeb newid hinsawdd.
Gwenllian Grigg oedd yn ei holi.