Llifogydd: Carwyn Jones yn ymweld â'r gogledd

Bu Carwyn Jones ym Miwmares a Llanrwst yn edrych ar effeithiau llifogydd ar y trefi.

Aeth hefyd i weld rhan o'r A55 ger Tal-y-bont, Bangor, gafodd ei effeithio gan y tywydd - ond wnaeth o ddim aros i siarad gyda thrigolion y pentref.