Cofio cyfraniad Bowie
Mae teyrngedau wedi bod yn dod o bob cwr o'r byd wedi'r newyddion am farwolaeth David Bowie yn 69 oed.
Mi oedd yn cael ei weld fel un o sêr mwyaf dylanwadol y sîn roc a phop.
Ers y chwechdegau roedd o wedi gwerthu cant a deugain miliwn albwm.
Mae Newyddion 9 wedi bod yn ystyried sut y gwnaeth o ddylanwadu ar bobl yng Nghymru.