BBC Cymru Fyw

Agor oriel yn olrhain agor atomfa'r Wylfa

Llai na mis ers i'r cynhyrchu trydan ddod i ben yn hen atomfa'r Wylfa, fe gafodd archif yn olrhain ei hanes ei hagor ar Ynys Môn ddydd Sadwrn.

Yn ogystal â ffotograffau a darluniau, mae'r cynllun gan ddeg o artistiaid yn cynnwys offer o'r diwydiant a deunydd protest.

Dafydd Evans aeth i Oriel Ynys Môn ar ran Newyddion 9.