Pryder yn dilyn byrgleriaethau Sanclêr
Mae Maer Sanclêr wedi dweud wrth BBC Cymru bod pobl y dref yn ofnus ar ôl pum achos o fyrgleriaeth mewn un noson.
Mae perchennog un busnes yn y dref wedi disgrifio sut aeth lladron i mewn i'r fflat ble roedd ei fam oedrannus yn byw - uwchben ei siop.
Mae ymateb chwyrn wedi bod i'r cyhoeddiad gan Gomisiynydd Heddlu Dyfed Powys y bydd gorsaf heddlu yn Sanclêr yn cau - ychydig dros wythnos yn unig ers y byrgleriaethau ar 20 Ionawr.
Roedd ymgais hefyd i dorri mewn i ddau fusnes arall.
Cafodd y lladron eu ffilmio ar gamerau cylch cyfyng preifat oedd yn eiddo i un o'r busnesau.
Yn ôl Comisiynydd yr Heddlu, Christopher Salmon, roedd hi'n rhy ddrud i drwsio'r orsaf yn Sanclêr ac mae am ddefnyddio arian cyhoeddus i ailagor gorsaf Hendy-gwyn.
Ychwanegodd y bydd lleoliad newydd yn cael ei ddarganfod yn Sanclêr fel bod modd i swyddogion yr heddlu a'r cyhoedd gwrdd.
Does neb wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â'r achosion o ladrata hyd yn hyn, ond mae'r heddlu wedi cynyddu ei bresenoldeb yn y dref ac yn apelio am wybodaeth.