Rhoi llais i gleifion canser
Fe ddaeth pobl sy'n dioddef o ganser at ei gilydd yng Nghaerdydd ddydd Mawrth i alw ar wleidyddion i sicrhau bod y gofal gorau posib ar gael ym mhob cwr o Gymru.
Fe gafodd y gynhadledd ei threfnu gan gleifion - y cyntaf o'i bath yng Nghymru.
Ymhlith yr ymgyrchwyr, roedd Irfon Williams o Fangor - symudodd i Loegr i gael triniaeth - ac hefyd Miriam Simmonds o Gaernarfon.
Fe fu'r ddau yn sôn mwy wrth Bethan Rhys Roberts am eu profiadau.