Perfformiad Palas Buckingham: 'Profiad anhygoel'
Mae Tywysog Cymru wedi canmol perfformiadau gan fyfyrwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Fe wnaeth y Tywysog ei sylwadau yn ystod digwyddiad ym Mhalas Buckingham i nodi pum mlynedd ers i'r coleg agor cyfleusterau newydd yng Nghaerdydd.
Ellen Williams, Soprano gyda'r coleg, fu'n rhannu ei theimladau gyda Gohebydd Celfyddydau BBC Cymru, Huw Thomas ar ôl y digwyddiad.