Camp fawr Greg James
Mae un o gyflwynwyr Radio Un, Greg James, yn ceisio cyflawni camp go fawr ar gyfer yr elusen Sport Relief eleni.
Mae'n ceisio cwblhau pum treiathlon sy'n gyfuniad o nofio, beicio a rhedeg, a hynny mewn pum niwrnod.
Belfast oedd hi ddoe, Caerdydd ddydd Mawrth
Yno i'w gyfarfod roedd ei gyd-weithiwr, Huw Stephens a fu'n siarad gyda gohebydd BBC Cymru, Elliw Mai.