Tocynnau Euro 2016
Mae cefnogwyr Cymru wnaeth gais am docynnau ar gyfer gemau Euro 2016 yn Ffrainc yr haf yma wedi dechrau clywed a fuon nhw'n llwyddiannus.
Fe wnaeth dros 50,000 o bobl gais, ond dim ond 21,000 o docynnau oedd ar gael i wylio Cymru'n chwarae yn rowndiau terfynol un o'r prif gystadlaethau am y tro cynta' ers 1958.