Pryder am gostau neuadd enwog y Brangwyn

Mae 'na bryder bod nifer o gymdeithasau cerddorol yn methu fforddio defnyddio un o neuaddau cyngerdd enwocaf Cymru.

Mae Neuadd y Brangwyn wedi bod yn boblogaidd ers dros 80 o flynyddoedd, gan ddenu perfformwyr o dros y byd.

Ond mae corau ardal Abertawe yn dweud bod cost cynnal cyngherddau yno bellach rhy ddrud.

Yn ôl Cyngor Abertawe mae'n parhau'n ganolfan arbennig gydag apêl unigryw.