Cynllun llwybr Cyngor Penfro i 'rannu' tir fferm
Mae Cyngor Sir Penfro yn ystyried defnyddio gorchymyn i greu llwybr ar draws tir fferm ger Llanychaer os na fydd ffermwr yn caniatáu i'r awdurdod i gwblhau gwaith ar y tir.
Mae Charles Lamb a'i deulu yn benderfynol o wrthwynebu'r cynlluniau i greu llwybr ar draws fferm Ddolwen yng Nghwm Gwaun, ond mi allai'r cyngor fwrw 'mlaen er bod yna wrthwynebiad.
Mae Mr Lamb yn honni y gallai'r cynllun hollti ei fferm yn ddwy.
Mae Cyngor Sir Penfro yn bwriadu adeiladu llwybr 5km o hyd o Gwm Abergwaun i Bont Cilrhedyn yng Nghwm Gwaun ar gyfer cerddwyr, ceffylau a seiclwyr.
Aeth Aled Scourfield i gwrdd â Charles Lamb ar fferm Ddolwen yn Llanychaer.