Alun Cairns: 'Balch' o fod yn Ysgrifennydd Cymru
Mae Alun Cairns wedi cael ei enwi'n Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru.
Daw ei benodiad wedi i Stephen Crabb gael ei benodi'n Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau.
Mae Mr Crabb yn olynnu Iain Duncan Smith, wnaeth ymddiswyddo yn sgil ffrae gyda'r cabinet am fudd-daliadau i bobl ag anableddau.