BBC Cymru Fyw

Ceidwadwyr mewn 'creisis', medd AS Llafur

Mae'r Ceidwadwyr mewn "creisis", yn ôl llefarydd Llafur ar Gymru.

Daw sylwadau Nia Griffith yn sgil ymddiswyddiad Iain Duncan Smith fel Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau.

Aelod Seneddol Preseli Penfro, Stephen Crabb, fydd yn olynnu Mr Duncan Smith tra bydd Alun Cairns yn llenwi sedd Mr Crabb fel Ysgrifennydd Cymru.