Atyniad newydd hen chwarel Llechwedd
Mae atyniad newydd wedi agor yn swyddogol yn hen chwareli Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog.
Mae'r atyniad yn cynnwys rheilffordd sy'n mynd 500 troedfedd dan y ddaear.
Ac wrth i fusnesau twristiaeth awyr agored - a thanddaearol - edrych ymlaen at dymor yr haf, mae'n ymddangos fod y diwydiant yn ffynnu yn y gogledd.
Dafydd Gwynn fu'n dilyn llwybr y chwarelwyr ar ein rhan ni.