Galw am gadw at reolau diogelwch

Mae teulu o Sir Benfro gollodd eu tad mewn damwain ar safle adeiladu, wedi apelio ar adeiladwyr i gadw at reolau iechyd a diogelwch.

Cafodd Glyndwr Richards o Lanfyrnach, ger Crymych ei ladd yn 2012 ar ôl i ochrau ffos yr oedd yn gweithio ynddi ddymchwel.

Ddydd Llun, cafodd yr adeiladwr oedd yn gyfrifol am y safle, William Ryan Evans o Drelech, ei garcharu am chwe mis.

Y gohebydd Aled Scourfield fu'n siarad â theulu Mr Richards.