'Angen gwell hyfforddiant i yrwyr newydd'
Mae teulu gyrrwr ifanc yn galw am well hyfforddiant i yrrwyr ifanc yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd yr A470 flwyddyn yn ôl, pan gafodd pedwar o bobol eu lladd.
Roedd Rhodri Miller ymhlîth y pedwar fu farw. Roedd newydd newydd basio'i brawf gyrru ddeuddydd ynghynt ac mae ei deulu'n dweud bod angen gwella'r hyfforddiant fel bod pobol ifanc yn gwybod mwy am beryglon y ffyrdd.
Ellis Roberts fu'n siarad â'r teulu.