Pryder am gostau cynnal cystadlaethau ralio yng Nghymru
O fewn y byd Ralio mae coedwigoedd Cymru'n cael eu hystyried fel rhai o'r lleoliadau gorau ar gyfer y gamp.
Ond mae BBC Cymru wedi darganfod bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried dyblu'r pris y maen nhw'n ei godi am gynnal cystadlaethau ar eu tir.
Mae nifer o glybiau ralio wedi dweud y bydd rhaid iddyn nhw feddwl ddwywaith cyn trefnu digwyddiadau yma os bydd hynny'n digwydd.
Mae eraill yn pryderu y gallai danseilio ralio Cymru'n gyfan gwbl, a tharo economi cefn gwlad. Craig Duggan sydd â'r hanes.