Dyfodol i ysgol Gymraeg yn Sir y Fflint?
Mae'n ymddangos bod gan ysgol Gymraeg wledig yn Sir y Fflint ddyfodol wedi'r cwbl.
Er y gwrthwynebiad yn lleol, roedd disgwyl i Ysgol Mornant ym Mhicton gau ddiwedd y tymor yma oherwydd y nifer isel o ddisgyblion.
Ond fe all Newyddion 9 ddatgelu bod cynllun i ffedereiddio gydag unig ysgol uwchradd y sir, sef Maes Garmon, wedi cael ei dderbyn. Adroddiad Dafydd Evans