Noson wael i Blaid Cymru?
Mae'r blaid Lafur wedi dal ei thir yn yr etholiad a hi fydd y blaid fwyaf yn y Cynulliad nesaf.
Sioc y noson oedd canlyniad y Rhondda wrth i Leanne Wood o Blaid Cymru gipio'r sedd oddi wrth yr ymgeisydd Llafur, Leighton Andrews.
Ond mae'r Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn dweud nad yw hi wedi bod yn noson dda i'r blaid ar draws Cymru.