BBC Cymru Fyw

Y blaid Geidwadol wedi llithro nôl yng Nghymru

Mae'r blaid Geidwadol wedi ennill tir yn yr etholiad yn yr Alban ond yng Nghymru mae hi wedi llithro nôl i'r trydydd safle.

Yn ôl yr Aelod Seneddol Ceidwadol Guto Bebb mae'n rhaid i'r blaid ofyn beth aeth o'i le yn yr etholiad Cynulliad.