Llysoedd di-bapur: Egluro'r newid
Mae barnwr wedi dweud bod cyfran uwch o ddiffynyddion yn pledio'n euog yn gynharach mewn llysoedd sydd wedi troi at system ddigidol ar ôl rhoi'r gorau i ddefnyddio ffeiliau papur.
Llysoedd Merthyr Tudful a Chaerdydd oedd ymhlith y cyntaf yng Nghymru a Lloegr i droi'n ddigidol fel rhan o gynllun gwerth £700m gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Cofiadur Caerdydd, Eleri Rees, sy'n egluro arwyddocâd y newid ar y llysoedd ac ar ddiffynyddion.
- Cyhoeddwyd
- 12 Mai 2016
- Adran
- Cymru Fyw
- Is-adran
- Newyddion a mwy