Cynllun newydd i fynd i'r afael ag 'argyfwng tai' Môn
Mae arweinwyr Cyngor Môn yn ceisio mynd i'r afael â'r hyn y maen nhw'n ei alw yn "argyfwng tai" ar yr ynys drwy adael i bobl o bob oed rentu fflatiau sydd ar hyn o bryd ar gael i bensiynwyr yn unig.
Ond gyda thenantiaid ystâd Llawr y Dref yn protestio, mae rhai o swyddogion y cyngor yn herio'r syniad er mwyn caniatáu ymgynghoriad llawn cyn newid y rheolau - sy'n bodoli ers degawdau.
Rhys Williams aeth i Langefni ar ran BBC Cymru.
- Cyhoeddwyd
- 21 Mai 2016
- Adran
- Cymru Fyw
- Is-adran
- Newyddion a mwy