'Edrych o'r newydd' ar ad-drefnu cynghorau
Mae'r corff sy'n cynrychioli cynghorau Cymru yn dweud bod angen eglurder ar lywodraeth leol wedi'r cyhoeddiad y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych o'r newydd ar gynlluniau i ad-drefnu.
Ond mae aelod o'r comisiwn wnaeth argymell torri ar nifer y cynghorau ddwy flynedd yn ôl wedi dweud wrth BBC Cymru bod angen ad-drefnu ar frys gan fod yr argyfwng o fewn llywodraeth leol yn gwaethygu.
Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru, Aled ap Dafydd sydd â'r hanes.
- Cyhoeddwyd
- 23 Mai 2016
- Adran
- Cymru Fyw
- Is-adran
- Newyddion a mwy